Cantores ifanc o Gaerdydd yw Catrin Herbert sy’n cyfansoddi ei chaneuon ei hunan. Mae ei EP cyntaf "Y Gwir, Y Gau a Phopeth Rhwng y Ddau" yn cynnwys dwy sengl yr wythnos ar raglen Dafydd Du a Caryl Parry Jones ar Radio Cymru, sef "Disgyn Amdana Ti" a "Dala'n Sownd", a phedair cân arall gan gynnwys "Ar Y Llyn" ac "Ar Goll Yng Nghaerdydd" sydd hefyd wedi bod yn boblogaidd ar y radio.

Yn ogystal â chyrhaedd y rhestr fer ar gyfer gwobr Artist Benywaidd y Flwyddyn Gwobrau Roc a Phop Radio Cymru yn 2012 ac mi aeth ei sengl gyntaf "Disgyn Amdanat Ti" yn drydydd yng nghystadleuaeth Sianel 62 a oedd yn cael ei benderfynu gan y cyhoedd. Catrin oedd yr unig artist benywaidd i gyrraedd y deg uchaf. 

Mae Catrin wedi mwynhau gigio led led y wlad a gwneud amryw o berfformiadau ar y teledu gan gynnwys ‘Ar Gamera’, rhaglen gyntaf ‘Y Stiwdio Gefn’ a sawl ymddangosiad ar raglen ‘Heno’, yn ogystal â nifer fawr o ymddangosiadau radio. Roedd hi hefyd yn ffodus o gael ei chyfweld ar gyfer y gylchgrawn boblogaidd ‘Y Selar’ ac i gael bod ar ei glawr. 

Yn 2013, gwireddwyd un o freuddwydion plentyndod Catrin wrth iddi gyrraedd rownd derfynol ‘Cân I Gymru’ gyda’ch chân ‘Ein Tir Na N’Og Ein Hunain’. 

Pan nad yw hi’n gigio ac yn ysgrifennu, mae hi’n fyfyrwraig ym Mhrifysgol Aberystwyth yn astudio Cymraeg Proffesiynol.  Mae hi hefyd yn arwain Côr Aelwyd Pantycelyn ac yn gapten ar dîm Rygbi Merched y Geltaidd.  Mae Catrin o hyd yn chwilio am gyfleuoedd i ganu ac yn edrych ymlaen yn arw ar recordio’r albwm nesaf.

Catrin is a young singer and songwriter from Cardiff. Her first EP, "Y Gwir, Y Gau a Phopeth Rhwng y Ddau", which translates roughly as "The True, The False and Everything in Between", included two singles of the week on Radio Cymru, "Disgyn Amdana Ti" and "Dala'n Sownd" and four other songs that have also been popular on the radio.

As well as being shortlisted for Female Artist of the Year on Radio Cymru's 2012 Rock and Pop Awards, the single "Disgyn Amdanat Ti" was voted third in a public vote for the Sianel 62 awards. Catrin was the only female artist to reach the top ten.

Catrin has performed across Wales including a number of television appearances on "Ar Gamera", "Y Stiwdio Gefn" and "Heno" and numerous radio broadcasts. She was also lucky to be interviewed for the popular magazine "Y Selar" and was featured on the front cover.

In 2013 Catrin fullfilled a childhood dream when she reached the final of "Cân I Gymru", "A Song for Wales", with "Ein Tir Na N'Og Ein Hunain".

When she is not performing Catrin is a student at aberystwyth University studying Welsh. She also conducts the student choir Aelwyd Pantycelyn and captains Y Geltaidd ladies rugby team.

Catrin is always looking for opportunities to perform and is also looking forward to recording her next album.